Dathlu llwyddiant yn y Gynhadledd Ymgysylltiad Meddygol
November 25, 2025 10:00 am
Cynhaliodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ei Chynhadledd Ymgysylltiad Meddygol eleni yng Ngerddi Sophia.
Daeth y digwyddiad cyffrous hwn â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, addysgwyr, ac uwch arweinwyr gofal iechyd ynghyd i arddangos y gwaith rhagorol a’r arferion arloesol ar draws y sefydliad.
Roedd thema eleni, ‘dathlu ein llwyddiant – yn y gorffennol, yn y presennol ac yn dyfodol’, yn gyfle i fyfyrio ar y safonau rhagorol rydym wedi eu cyflawni wrth edrych ymlaen at y broses barhaus o drawsnewid ein gwasanaethau yng Nghymru a’r tu hwnt.
“Nod heddiw yw camu yn ôl ac edrych ar yr holl waith o arloesi, gwella a thrawsnewid rydyn ni’n eu harwain.”
– Dr Jacinta Abraham, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol
Roedd y gynhadledd yn gyfle i ddathlu cyrhaeddiadau’r staff meddygol ac i feithrin cydweithrediad rhwng Gwasanaeth Canser Felindre a Gwasanaeth Gwaed Cymru. Ymhlith holl eitemau’r agenda roedd pedair sesiwn allweddol:
Ymchwil a datblygu (Cadeirydd: Yr Athro Rob Jones)
Datblygu ein gweithlu yn y dyfodol (Cadeirydd: Dr Indu Thakur)
Arloesi a gwella (Dr Richard Webster)
Ein proffil arweinyddiaeth (Dr Mick Button)
Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys cinio rhwydweithio ac arddangosfeydd gan adrannau’r Ymddiriedolaeth a noddwyr.
Yn ogystal â hynny, cafodd y mynychwyr gyfle i glywed dwy brif araith rymus gan yr Athro Phil Kloer, sy’n Brif Weithredwr ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a’r Athro Rich Withnall, sy’n Brif Weithredwr ar y Gyfadran Arwain a Rheoli Meddygol (FMLM). Rhoddwyd sylw ar y dirwedd arweinyddiaeth feddygol yng Nghymru a ledled y DU.
“Fe wnaeth Cynhadledd Ymgysylltiad Meddygol Felindre greu cyfleoedd newydd i ymgysylltu ag arweinwyr hirhoedlog y GIG, arddangos rhagoriaeth a rhannu gwybodaeth trwy gyfleoedd rhwydweithio. Yn y pen draw, bydd hyn oll o fudd i bobl yng Nghymru.”
– Kalinga Perera, Ymgynghorydd Gwasanaeth Gwaed Cymru a Chyfarwyddwr Meddygol Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru
Diolch i’r holl siaradwyr, trefnwyr a mynychwyr am ganiatáu i ni ddathlu llwyddiant, arloesedd a gwelliant ar draws y sefydliad.