Skip to content

Ein Her

Mae gofal canser yn esblygu’n gyflym. Mae’r gallu i ddatblygu, treialu a defnyddio cyffuriau a therapïau newydd yn y GIG yn allweddol i sicrhau canlyniadau iechyd gwell i gleifion. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng y GIG a’r byd academaidd, a chyda diwydiant, yn hanfodol i ddatblygu a chyflwyno’r genhedlaeth nesaf o driniaethau canser.

Gyda’i phoblogaeth o 3 miliwn a’i system gofal iechyd integredig, mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fainc brofi i ddiwydiant, cyllidwyr ymchwil ac elusennau sy’n awyddus i ddatblygu a defnyddio triniaethau canser newydd. Mae Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd yn rhan allweddol o’r seilwaith ymchwil hwn, ac yn bwynt mynediad iddo.

Ein Nod yw Cyflawni

chart

Canlyniadau Gwell i Gleifion

Helpu i gynyddu mynediad at dreialon canser i gleifion ledled De Cymru.

pipe

Mwy o Dreialon Clinigol

Cynyddu nifer y treialon clinigol a gynhelir yn Ne Cymru.

scales

Trosi Ymchwil yn Fywydau Gwell

Helpu i gynyddu mynediad at dreialon canser i gleifion ledled De Cymru.

handshake

Gwneud Mwy o Ymchwil Gyda'n Gilydd

Dod ag academyddion a chlinigwyr ynghyd i ddatblygu astudiaethau ymchwil canser newydd, wedi'u llywio gan anghenion cleifion.

microscope

Mynd ag Ymchwil o'r Labordy i'r Ward

Cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymchwil o'r cyfnod labordy cyn-glinigol i dreialon cleifion.

bulb

Gweithlu sy'n Canolbwyntio ar y Dyfodol

Dod â gweithlu ymchwil canser Cymru ynghyd, ei gynyddu a’i helpu i hyfforddi.

Ein Clinigwyr ac Ymchwilwyr Arbenigol

Yr Athro Mererid Evans
Yr Athro Mererid Evans

Yr Athro Mererid Evans

Yn arbenigo mewn canser y pen a'r gwddf a Chyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru.
Darllenwch mwy
Yr Athro Awen Gallimore
Yr Athro Awen Gallimore

Yr Athro Awen Gallimore

A hithau’n arbenigo mewn imiwnoleg ac yn un o gyd-sylfaenwyr labordy Gallimore Godkin sy'n mynd ag ymchwil sylfaenol gan ddefnyddio systemau model o ganser hyd at brofi imiwnotherapiau newydd mewn cleifion â chanser.
Darllenwch mwy
Yr Athro Alan Parker
Yr Athro Alan Parker

Yr Athro Alan Parker

Yn gweithio o firoleg sylfaenol i oncoleg drosiadol, gan gynnwys trin a saernïo adenofeirysau yn gyfryngau therapiwtig uwch ar gyfer trin canserau.
Darllenwch mwy
Yr Athro Steven Knapper
Yr Athro Steven Knapper

Yr Athro Steven Knapper

Arweinydd canser hematolegol yn Ysbyty Prifysgol Cymru, yn ymchwilio i ddatblygu cyfryngau therapiwtig wedi'u targedu mewn malaeneddau myeloid; a hynny mewn astudiaethau labordy cyn-glinigol ac ymchwil glinigol.
Darllenwch mwy
Dr Ceri Bygrave
Dr Ceri Bygrave

Dr Ceri Bygrave

Cyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu Hematoleg yn Ysbyty Prifysgol Cymru, yn arbenigo mewn treialon clinigol myeloma.
Darllenwch mwy
Yr Athro Robert Jones
Yr Athro Robert Jones

Yr Athro Robert Jones

Prif Ymchwilydd a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n arbenigo mewn canser y colon a'r rhefr ac arweinydd Tiwmorau Solet Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd.
Darllenwch mwy
Dr Ricky Frazer
Dr Ricky Frazer

Dr Ricky Frazer

Yn arbenigo mewn canser yr arennau, canser y croen ac imiwnotherapi ac yn arweinydd clinigol ar gyfer yr uned Asesu Oncoleg Acíwt a'r gwasanaeth Rheoli Gwenwyndra Imiwnotherapi yng Nghanolfan Canser Felindre.
Darllenwch mwy
Dr James Powell
Dr James Powell

Dr James Powell

Yn arbenigo mewn niwro-oncoleg, yn arwain ar gydweithrediadau tiwmorU’r ymennydd gyda CUBRIC ac yn Arweinydd Clinigol ar gyfer Academi ARC.
Darllenwch mwy
Dr Keith Wilson
Dr Keith Wilson

Dr Keith Wilson

Yr Arweinydd Clinigol ar gyfer trawsblannu gwaed a mêr esgyrn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Darllenwch mwy
Dr Philip Savage
Dr Philip Savage

Dr Philip Savage

Academydd Clinigol mewn Imiwno-oncoleg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Darllenwch mwy
Yr Athro Andrew Westwell
Yr Athro Andrew Westwell

Yr Athro Andrew Westwell

Gwaith darganfod a datblygu cyn-glinigol cyffuriau gwrthganser newydd sy'n targedu clefydau datblygedig a metastatig.
Darllenwch mwy
Yr Athro Richard Clarkson
Yr Athro Richard Clarkson

Yr Athro Richard Clarkson

Sylfaenydd labordy Clarkson ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi nodi dau enyn sy'n effeithio ar ledaeniad canser.
Darllenwch mwy
Yr Athro Paul Shaw
Yr Athro Paul Shaw

Yr Athro Paul Shaw

Yn arwain portffolio treialon yr ysgyfaint Felindre a'r llif gwaith radiotherapi cyffuriau yn yr Uned Treialon Cyfnod Cynnar yn Felindre.
Darllenwch mwy

Ein Timau Clinigol

Gabriella Brutto
Nyrs Ymchwil Gabriella Brutto

Gabriella Brutto

Nyrs Ymchwil gyda phrofiad o nyrsio acíwt yn darparu gofal allweddol i gleifion sy'n cael therapïau newydd ac uwch ar draws y ddau safle ysbyty.
Darllenwch mwy
Karen Pow
Fferyllydd Treialon Clinigol Karen Pow

Karen Pow

Fferyllydd Treialon Clinigol sy'n rheoli gweithdrefnau a phresgripsiynau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion noddwyr ar gyfer paratoi cyffuriau.
Darllenwch mwy
Katie Gilmour
Uwch Reolwr Nyrsio Ymchwil Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd Katie Gilmour

Katie Gilmour

Uwch Reolwr Nyrsio Ymchwil, yn astudio ar gyfer MRes gyda Phrifysgol Stirling ar hyn o bryd ac yn aelod o Bwyllgor Moeseg Ymchwil yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Darllenwch mwy
Dr Jennifer Golten
Dr Jennifer Golten

Dr Jennifer Golten

Ymchwilio i radiotherapi ar gyfer glioma gradd uchel ac isel a chydweithio â CUBRIC ar ddefnyddio MRI microstrwythur i ddelweddu glioblastoma.
Darllenwch mwy
Dr Rob Wilson
Dr Rob Wilson

Dr Rob Wilson

Astudiodd Dr Wilson Fioleg Foleciwlaidd a Chellog ym Mhrifysgol Caerfaddon yn wreiddiol, gyda blwyddyn o leoliad mewn labordy yn Sefydliad...
Darllenwch mwy

Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd - Y partneriaid

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Un o sefydliadau mwyaf y GIG yn y DU sy’n darparu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol, gwasanaethau acíwt trwy Ysbyty Prifysgol Cymru a gwasanaethau trydyddol arbenigol ar gyfer poblogaeth ehangach Cymru.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro enw da yn rhyngwladol am ymchwil glinigol arloesol, gan gynnwys ei ganolfan drydyddol ar gyfer trin Canser y Gwaed a phortffolio mawr o dreialon masnachol ac anfasnachol a chanolfan drawsblannu lefel 3.

Mae ymchwil wedi’i hymgorffori ar draws y Bwrdd Iechyd, ac mae ein gwaith gyda’r byd academaidd, sefydliadau masnachol, diwydiant a chanolfannau ymchwil eraill yn hanfodol ar gyfer gwella gofal iechyd.

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

 

Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

 

Darparwr arbenigol y GIG sy’n darparu gwasanaethau oncoleg trydyddol anlawfeddygol i gleifion trwy Wasanaeth Canser Felindre a chanolfan ganser bwrpasol.

Mae Felindre yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol am ei hymchwil arloesol, ei gwasanaethau cymhleth ac arbenigol iawn, ei thechnoleg o’r radd flaenaf, a’i staff clinigol ac anghlinigol medrus iawn. Ar hyn o bryd mae Felindre yn lletya ac yn noddi cymysgedd o astudiaethau masnachol ac anfasnachol ar draws ystod amrywiol o feysydd ymchwil.

Mae ein portffolio yn cynnwys treialon clinigol canser, astudiaethau ymchwil gofal lliniarol a gofal iechyd, ynghyd ag ymchwil i feddygaeth trallwyso gwaed a thrawsblannu yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru.

 

Prifysgol Caerdydd

 

Prifysgol Caerdydd

 

Unig brifysgol Grŵp Russell Cymru sydd â phortffolio ymchwil ac arloesi canser amrywiol sy’n canolbwyntio ar gyflymu’r pontio o’r labordy i’r clinig.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym gryfderau mewn tiwmorau a’r amgylchedd, darganfod a chyflenwi cyffuriau, geneteg canser bersonol a threialon clinigol. Mae’r rhain wedi ein galluogi i gyflawni a chynnal cydnabyddiaeth fel arweinydd cenedlaethol a chystadleuydd byd-eang mewn ymchwil canser arloesol.

Mae ein portffolio ymchwil canser yn amrywiol, gan gwmpasu bioleg canser, darganfod cyffuriau, atal a diagnosis cynnar. Trwy gymhwyso ein harbenigedd a’n gwybodaeth ar draws disgyblaethau gwyddonol, ein nod yw gwella ein dealltwriaeth sylfaenol o ganser er mwyn gwella’r triniaethau ar gyfer cleifion â chanser.

Ein Cydweithwyr

Rydym hefyd yn gweithio gyda'r cydweithwyr canlynol, i ychwanegu eu harbenigedd a'u gallu at yr hyn a gynigiwn. Cliciwch ar y logos i ymweld â'u gwefannau.

Cefnogwch Ein Cenhadaeth

Ymunwch â ni i gyflawni ymchwil arloesol sy'n trawsnewid bywydau pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser, gan roi gwell cyfle iddynt wella.
Cysylltwch â ni