Skip to content

Gwasanaethau a buddion i aelodau

Dolen i safle SharePoint Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd

 

Rydym yn dwyn ynghyd gymuned o glinigwyr, academyddion, partneriaid diwydiant, gweinyddwyr a llunwyr polisi. Drwy weithio ar draws ffiniau sefydliadol, ein nod yw gwneud rhagor o ymchwil, a’i wneud yn gyflymach ac yn fwy effeithiol.

Rydym yn cynnig yr ystod ganlynol o wasanaethau a buddion i aelodau ein cymuned.

Rydym yn cydlynu ysgrifennu ceisiadau ariannu ymchwil mawr, aml-sefydliadol, ac yn tynnu ar gefnogaeth ysgrifennu grantiau gan Brifysgol Caerdydd a chefnogaeth glinigol a gweinyddol gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a BIP Caerdydd a’r Fro.

Drwy ddod â grwpiau llai o ymchwilwyr a chlinigwyr ynghyd, gallwn helpu i ddatblygu ceisiadau am grantiau trosi.

Rydym hefyd yn cefnogi clinigwyr unigol ac ymchwilwyr cyfnod cynnar i gyflwyno ceisiadau am grantiau.

Cysylltwch os hoffech chi gael cymorth gydag ysgrifennu tendrau.

Rydym yn gweithio gyda Banc Canser Cymru a Banc Bio Prifysgol Caerdydd i roi mynediad cyflym i ymchwilwyr sy’n gysylltiedig â Phartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd at samplau cleifion.

Cysylltwch â ni os hoffech gael mynediad at samplau cleifion.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithdai, seminarau a digwyddiadau eraill i ddod ag ymchwilwyr academaidd a chlinigol, diwydiant, cyllidwyr ymchwil a llunwyr polisi ynghyd.

Gweld ein digwyddiadau sydd ar ddod

Rydym yn helpu ein hymchwilwyr sydd wedi’u lleoli yn y Brifysgol i ddod o hyd i glinigwyr, data’r GIG a samplau cleifion ar gyfer eu hymchwil, wrth helpu ein clinigwyr i gael mynediad at gymrodoriaethau academaidd a phrosiectau ymchwil dan arweiniad y Brifysgol.

Drwy weithredu fel pont rhwng staff y Brifysgol a staff y GIG, rydym yn galluogi mwy o ymchwil sy’n rhychwantu’r ddau sector, gan arwain at astudiaethau ymchwil cryfach a chynnig cydweithio mwy deniadol i ddiwydiant.

Drwy weithredu fel cydweithrediad GIG/academaidd, rydym hefyd yn gallu datblygu partneriaethau dyfnach a chryfach gyda diwydiant, gan ei gwneud hi’n haws i’r cwmnïau rydym yn gweithio gyda nhw gael mynediad at staff, cyfleusterau ac arbenigedd y Brifysgol a’r GIG.

Cysylltwch â ni os hoffech chi gael cefnogaeth i gysylltu â chydweithwyr.

Cysylltwch â ni i ymuno â chymuned Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd!