Astudiaeth achos: MORAb- 202

Astudiaeth Cyfnod Cynnar yn edrych ar wrthgorff i dderbynnydd ffolad a gaiff ei fynegi mewn nifer o ganserau gwahanol, sy’n gysylltiedig â chyffur a all ladd celloedd canser.
Noddwr: Eisai Ltd
Math o ganser: Canser y fron Triphlyg Negyddol, canser yr endometriwm, canser yr ysgyfaint o fath celloedd mwy a chanserau’r ofari.
Mae MORAb-202 yn gyffur arbrofol sy’n gweithio trwy dargedu ac ymlynu wrth gelloedd tiwmor canser sydd â phrotein penodol o’r enw derbynnydd ffolad alffa ar wyneb y gell. Mae’r protein hwn i’w gael fel arfer o fewn canser y fron triphlyg negatif, canser yr endometriwm, canser yr ysgyfaint o fath celloedd mwy a chanser yr ofari.
Unwaith y bydd MORAb-202 yn mynd i mewn i’r celloedd tiwmor mae’n rhyddhau cyfansoddyn o’r enw Eribulin, sy’n gweithio trwy ladd ac atal celloedd canser rhag lluosogi.
Mae tair rhan i’r astudiaeth hon.
- Cynyddu’r Dos – i bennu a nodi’r dos diogel uchaf y gellir ei oddef o’r cyffur dan sylw, sef MORAb-202.
- Cadarnhau’r Dos – i gasglu mwy o wybodaeth am ddiogelwch ac effeithiolrwydd dosau dethol o’r cyffur dan sylw mewn cyfranogwyr â chanser endometriaidd a chanser yr ofari.
- Optimeiddio’r Dos – casglu mwy o wybodaeth am ddiogelwch ac effeithiolrwydd MORAb-202 gan ddefnyddio gwahanol ddosau ac amserlenni gweinyddu ac i gasglu gwybodaeth ynghylch a all cwrs byr (3 diwrnod) o corticosteroidau (cyffuriau fel prednisone/prednisolone neu dexamethasone a all leihau llid) leihau’r siawns o ddatblygu clefyd interstitaidd yr ysgyfaint (llid yr ysgyfaint) sydd wedi’i nodi ar ôl triniaeth gyda MORAb202.

