
Addysg ac Integreiddio
Mae gan Bartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd weithlu canser yng Nghymru sy’n canolbwyntio ar y dyfodol i ysgogi datblygiadau mewn cyffuriau newydd a fydd yn trawsnewid canlyniadau i gleifion.
Nid partneriaeth ar gyfer ymchwil canser yn unig ydym ni – byddwn yn drawsnewidiol wrth hyfforddi gwyddonwyr a chlinigwyr newydd, gan ddenu gweithlu medrus iawn i Gymru a chynnig opsiynau newydd i gleifion a’u teuluoedd. Rydym yn cyflymu cyflawniadau ein gwyddonwyr sylfaenol, arloeswyr a datblygwyr cyffuriau, a fydd yn ein galluogi i yrru ein targedau newydd mwyaf addawol ymlaen mewn dull o’r gwely i’r fainc ac yn ôl.
Er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion canser, mae angen y seilwaith a gweithlu medrus arnom sy’n barod i brofi a chyflwyno’r therapïau soffistigedig hyn, ac mae Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd yn allweddol wrth wireddu’r uchelgais hon.
Diolch i Wobr Partneriaeth Trosi Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome gan Brifysgol Caerdydd, aeth tîm amlddisgyblaethol o feddygon, nyrsys a fferyllwyr o Gaerdydd a’r Fro a Felindre ar ymweliadau datblygu â chanolfannau Therapi Celloedd blaenllaw ledled y DU.
Mae tyfu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn hanfodol i ddatblygu ein galluoedd clinigol yn y maes chwyldroadol hwn. Bydd hyn yn agor y drws i gyfleoedd newydd i gleifion â chanserau gwaed a solet gymryd rhan mewn treialon clinigol cyfnod cynnar o therapïau CAR-T a chelloedd T, ochr yn ochr â thriniaethau imiwnedd ac animiwnedd arloesol eraill a ddatblygwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd.