Astudiaeth achos: MonumenTAL-6

Astudiaeth sy’n cymharu effeithiolrwydd y cyffuriau Tal-pomalidomide (Tal-P) neu Tal-Tec pan gânt eu cymryd ar y cyd ag eraill i drin canser y gwaed.
Noddwr: Janssen-Cilag Rhyngwladol NV
Math o ganser Myeloma lluosog atglafychol neu anhydrin
Canser y gwaed yw myeloma lluosog sy’n effeithio ar rai mathau o gelloedd gwaed gwyn o’r enw celloedd plasma. Er bod triniaethau ar gael, gall myeloma lluosog ddychwelyd ar ôl triniaeth neu fod ag ymwrthedd i driniaeth safonol. Gall cyffuriau sy’n ailgyfeirio celloedd T (math o gelloedd gwaed gwyn) i ymosod ar gelloedd canser fod yn fodd effeithiol o ddinistrio celloedd canser gan arwain at ymateb triniaeth hirdymor.
Yn yr astudiaeth hon, mae ymchwilwyr eisiau dysgu am effeithiolrwydd y cyffuriau Tal-pomalidomide (Tal-P) neu Tal-Tec pan gânt eu cymryd ar y cyd ag eraill gan gynnwys elotuzumab, pomalidomide, a dexamethasone (EPd) neu pomalidomide, bortezomib, a dexamethasone (PVd).
Un ffordd o ganfod pa mor dda y mae triniaeth newydd yn gweithio yw mesur yr amser y mae’n ei gymryd i’r clefyd ddychwelyd neu waethygu. Bydd gan gyfranogwyr gyfle cyfartal o gael naill ai Tal-P neu Tal-Tec yn ogystal â thriniaeth EPd neu PVd a ddewisir gan feddyg yr astudiaeth. Astudiaeth label agored yw hon, sy’n golygu y bydd y cyfranogwr, y gofalwr, a meddyg yr astudiaeth yn gwybod am y cyffur astudio a roddir.
Mae’r treial hefyd yn galluogi cleifion y treial i gael mynediad at Talquetamab a teclistamab. Cyffuriau yw’r rhain sy’n defnyddio gwrthgyrff wedi’u haddasu i rwymo â phroteinau ar wyneb celloedd myeloma lluosog a chelloedd T, sy’n actifadu celloedd T ac yn lladd celloedd tiwmor.

