Skip to content

Darganfod ac ymchwil drosiadol

Trwy gysylltu’r byd academaidd a’r GIG, mae Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd yn ei gwneud hi’n haws mynd ag ymchwil o’r labordy i’r ward, ac yn ei thro defnyddio data, samplau a phrofiad o driniaethau’r GIG i lywio’r genhedlaeth nesaf o ymchwil labordy.

Rydym yn:

  • Cymryd ymchwil o labordai Prifysgol Caerdydd i dreialon clinigol yng nghyfleusterau GIG Felindre a Chaerdydd a’r Fro. Mae ein treial ymchwil drosiadol cyntaf,ATTEST, bellach yn agor.
  • Gweithio gyda’r diwydiant i nodi cyfleoedd ar gyfer:
    • bwydo allbynnau o dreialon clinigol a wnaed ym Mhartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd i ymchwil drosiadol ym Mhrifysgol Caerdydd
    • datblygu ymchwil darganfod o ddiwydiant, naill ai drwy ymchwil drosiadol ym Mhrifysgol Caerdydd, neu dreialon clinigol gyda’r GIG yng Nghaerdydd a’r Fro neu Felindre.
  • Datblygu ceisiadau am gyllid grant ymchwil drosiadol, gan gynnwys gyda phartneriaid yn y diwydiant.

I ddysgu mwy neu i drafod astudiaeth ymchwil drosiadol bosibl gyda ni, cysylltwch â ni.