Skip to content

ATTEST – Recriwtio’r claf cyntaf i dreial clinigol sy’n defnyddio feirws sy’n targedu canser

Mae’r claf cyntaf wedi cael ei drin mewn treial clinigol sy’n profi technoleg feirws arloesol – a ddechreuodd ym Mhrifysgol Caerdydd – sy’n heintio celloedd canser, gan gynhyrchu cyffur gwrth-diwmor o’r tu mewn i’r celloedd tiwmor.

Treial ATTEST Accession Therapeutics yw’r treial Cyfnod 1 cyntaf mewn bodau dynol – yn canolbwyntio ar gleifion tiwmor solet – gan brofi TROCEPT-01 (a elwir hefyd yn ATTR-01). Mae’r treial yn cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r treial ATTEST yn recriwtio i safleoedd clinigol blaenllaw yn y DU – gan gynnwys Caerdydd – gyda chynlluniau i ymestyn i Sbaen. Yr Athro Adel Samson yn Ysbyty Athrofaol Leeds yw Prif Ymchwilydd yr astudiaeth.

Mae’r gwaith o gyflawni’r treial yng Nghaerdydd yn cael ei gefnogi gan Bartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd – cydweithrediad sy’n anelu at wella a chydlynu ymchwil canser yng Nghymru, cynyddu nifer y cleifion sydd â mynediad at dreialon clinigol newydd, a chyflymu datblygiad triniaethau newydd. Datblygwyd y dechnoleg sy’n sail i TROCEPT-01 yn wreiddiol gan wyddonwyr yn labordy’r Athro Alan Parker ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn cael ei drwyddedu i Accession Therapeutics Ltd. yn 2021. Ers hynny mae Accession wedi symud y rhaglen ymlaen trwy’r broses ddatblygu ac i’r clinig. Mae TROCEPT-01 yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar feirysau wedi’i beiriannu’n fanwl gywir i arbed meinwe iach a thargedu’r tiwmor a’r briwiau metastatig yn unig.

Mae’r therapi newydd yn darparu effaith ddeuol-therapiwtig drwy gydnabod a heintio celloedd canser yn unig yn gyntaf, gan wneud mwy o gopïau ohono’i hun ac achosi i’r celloedd canser heintiedig ffrwydro. Yn ail, mae’r feirws yn cyflwyno genyn i gelloedd canser sy’n amgodio i ddod o hyd i atalydd pwynt gwirio – math o imiwnotherapi sy’n rhwystro proteinau ar gelloedd imiwnedd. Mae hyn yn troi’r celloedd canser yn ffatrïoedd sy’n cynhyrchu’r cyffur gwrth-diwmor ac yn sbarduno ymateb imiwnedd pwerus a manwl gywir i weithredu ar y tiwmor.

Dywedodd yr Athro Alan Parker, Athro Feiroleg Drosi ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrif Swyddog Gwyddonol Accession Therapeutics: “Mae’n hyfryd gweld ymyriad a grëwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn symud ymlaen i fod yn dreial clinigol, gydag un o’r safleoedd hyn yng Nghaerdydd.

“Mae TROCEPT-01 wedi’i ddylunio i weithredu cyn lleied â phosibl mewn meinweoedd iach a chymaint â phosibl yn y tiwmor. Golyga hyn fod y driniaeth hon yn addawol iawn wrth drin canserau ag anghenion clinigol heb eu diwallu, ac mae’r treial ATTEST yn cynnwys canserau anodd eu trin fel canserau pancreatig, yr ysgyfaint, y bledren, y pen a’r gwddf, endometriaidd a cholangiocarsinomas.”

Dywedodd Dr Magda Meissner, Gwasanaeth Canser Felindre a Phrif Ymchwilydd y Treial ATTEST yn safle Caerdydd: “Mae bod yn rhan o’r treial ATTEST yn garreg filltir gyffrous i’n tîm ac i ymchwil canser yng Nghymru. Mae’r astudiaeth hon yn dwyn ynghyd arloesedd academaidd ac arbenigedd clinigol wrth i ni brofi cyflwyno dosbarth newydd o therapi oncolytig manwl gywir yn uniongyrchol i gleifion. Rydyn ni’n falch bod Caerdydd yn rhan o’r treialon a gynhelir mewn bodau dynol am y tro cyntaf ac yn helpu i drosi blynyddoedd o ymchwil labordy yn opsiynau triniaeth newydd posibl i bobl â chanserau datblygedig.”

Dywedodd Claire Lang, Uwch Reolwr Nyrsys Ymchwil, Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd: “Byddaf i’n gweithio gyda’r cleifion yn safle Caerdydd i roi’r driniaeth. Dyma enghraifft wych o ymchwil canser ‘o’r labordy i erchwyn y gwely’ yng Nghymru – datblygu ymchwil o labordai Prifysgol Caerdydd yn ddosbarth newydd o gyffur, a’i gyflwyno i gleifion y GIG am y tro cyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru a Chanolfan Ganser Felindre drwy’r treial hwn.”

Dywedodd David Fluck, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae ymchwil yn gyfle i ddarganfod triniaethau newydd a chael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl yng Nghaerdydd, Cymru, ac ar draws y byd.

“Mae’n gyffrous gweld fy nghydweithwyr yn cael cymaint o effaith ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy am y treial hwn a phrosiectau eraill sy’n digwydd ym Mhartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd, ac ar draws ardal ein Bwrdd Iechyd. Rwy’n ddiolchgar i Ganolfan Ganser Felindre a Phrifysgol Caerdydd am gefnogi’r gwaith pwysig hwn.”

Dywedodd Bent Jakobsen, Prif Swyddog Gweithredol Accession Therapeutics: “Mae rhoi’r dos i’r claf cyntaf yn ein treial clinigol TROCEPT-01 yn foment hollbwysig i Accession Therapeutics ac yn dyst i ymroddiad ein tîm a’n cydweithwyr. Yn TROCEPT, rydyn ni wedi creu platfform unigryw a hynod amlbwrpas sy’n galluogi cyffuriau newydd i gael eu gwneud y tu mewn i gelloedd canser. Mae’r platfform yn rhoi cyfleoedd i ni greu cynhyrchion gwerthfawr i drawsnewid canlyniadau i gleifion canser. Mae gan TROCEPT-01 (ATTR-01) y potensial i ehangu’r arwyddion lle mae atalyddion pwynt gwirio wedi bod yn llwyddiannus.

Partneriaeth strategol ar y cyd yw Partneriaid Ymchwil ar Iechyd Caerdydd a lansiwyd yn ddiweddar rhwng Prifysgol Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i gyplysu gwyddoniaeth ddarganfod, gofal clinigol, addysg a phartneriaethau a byd diwydiant â’i gilydd er mwyn arloesi’n gyflymach i greu ymarfer, gwella tegwch iechyd a gwthio twf economaidd ac adfywio cynhwysol.

I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan mewn treialon clinigol, dylai cleifion ymgynghori â’u gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gyntaf. Ni all cleifion atgyfeirio eu hunain i’r treial ATTEST ac ni all unrhyw un o’r safleoedd/cwmnïau/unigolion a enwir uchod dderbyn ymholiadau nac atgyfeiriadau unigol.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Mae safle treial ATTEST Accession Therapeutics yng Nghymru wedi’i sefydlu mewn cydweithrediad agos â’r sefydliadau canlynol:
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre – Gweithiodd Felindre gyda BIP Caerdydd a’r Fro i sefydlu’r astudiaeth hon, a nhw fydd yn cynnal yr astudiaeth.
  • BIP Caerdydd a’r Fro – Mae’r Tîm Cyflawni Ymchwil (CRF) yn CAVUHB yn gweithio gyda nyrsys CCRP i ddarparu’r driniaeth a bydd y claf yn derbyn triniaeth yn eu Cyfleuster Ymchwil Clinigol.
  • Prifysgol Caerdydd – Gwnaed a datblygwyd y darganfyddiad gan wyddonwyr yn labordy’r Athro Parker ym Mhrifysgol Caerdydd. Ariannwyd ymchwil yr Athro Alan Parker gan Ymchwil Canser Cymru a Cancer Research UK.
  • Chwaraeodd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC) rôl ganolog wrth drefnu’r treial.
  • Mae Canolfan Ymchwil Canser Cymru (WCRC) wedi cyd-ariannu Cymrodyr Ymchwil Clinigol i helpu i gyflawni’r treial.
  1. Mae Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP) yn bartneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd.
  2. Mae Elusen Canser Felindre yn ariannu tîm Cyflenwi Clinigol CCRP sydd wedi sefydlu ac yn cyflwyno’r treial yng Nghaerdydd.
  3. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Alice Gray/Victoria Dando

Cyfathrebu a Marchnata

Prifysgol Caerdydd

DandoV2@caerdydd.ac.uk / GrayA8@caerdydd.ac.uk

Gellir anfon ymholiadau gan y cyfryngau ynghylch y treial ATTEST at Accession Therapeutics yn comms@accessiontherapeutics.com

  1. Gwybodaeth am Brifysgol Caerdydd

Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd fel un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil. Mae’r Brifysgol hefyd yn aelod o Grŵp Russell, sy’n cynnwys prifysgolion y DU sy’n rhoi’r pwyslais mwyaf ar waith ymchwil. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, nodwyd bod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol. Ymhlith staff academaidd y Brifysgol mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgil Siarter Frenhinol ym 1883. Heddiw, mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Dyma gwmpas ehangder arbenigedd y Brifysgol: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Rhagor o wybodaeth www.caerdydd.ac.uk