Skip to content

Bartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd

Mae cydweithrediad deinamig a fydd yn cynyddu mynediad cleifion canser Cymru at ymchwil canser trwy ddod â threialon clinigol newydd i Gymru wedi’i lansio’n swyddogol wrth i Bartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP) gael ei dadlennu.

Partneriaeth ffurfiol rhwng Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Phrifysgol Caerdydd yw’r Bartneriaeth, sy’n dwyn ynghyd academyddion a chlinigwyr i gynyddu astudiaethau ymchwil canser aml-sefydliadol a threialon clinigol a ariennir gan y diwydiant.

Mae’r Bartneriaeth yn cynnig un porth symlach i arbenigedd a chyfleusterau o’r radd flaenaf ar draws canserau hematolegol a thiwmorau solet – o’r cyfnod darganfod cynnar hyd at dreialon clinigol cymhleth a chyfnod hwyr.

Dywedodd Dr David Fluck, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

“Mae’r bartneriaeth yn gyfle i ddod â’n hymchwil flaenllaw at ei gilydd. Mae gan gydweithwyr ar draws ein sefydliadau sgiliau a phrofiadau unigryw a all fod o fudd i waith ei gilydd. Mae’n wych adeiladu ar yr arbenigedd unigryw sydd gennym yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd.

Rydym yn gryfach gyda’n gilydd Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae ein gwaith ar y cyd yn datblygu.”