Skip to content

Nyrs Ymchwil Arweiniol yn cael gwobr astudio gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

Cardiff Cancer Research Hub lead research nurse Kate Gilmour sitting at desk in blue uniform

Mae Kate Gilmour wedi cael Gwobr Hyfforddiant Ymchwil gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i’w chefnogi i astudio ar gyfer MRes Ymchwil Iechyd ym Mhrifysgol Stirling.

Yn dilyn gyrfa mewn gwaith cymdeithasol, ailhyfforddodd Kate fel nyrs gofrestredig. Bu’n gweithio yng Nghanolfan Canser Felindre am dair blynedd, gan ddechrau fel nyrs therapi gwrth-ganser systemig (SACT) cyn ymgymryd â rôl nyrs ymchwil gyda Phartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd.

Dewisodd Kate astudio ym Mhrifysgol Stirling oherwydd bod eu cwrs MRes i’w gael yn gyfan gwbl ar-lein, a fydd yn cyd-fynd â’i gwaith.

“Mae Stirling yn ddewis da i mi; bydd yn caniatáu i mi weithio ac astudio gyda seminarau gyda’r nos. Mae gan y cwrs ystod eang o fodiwlau a fydd yn ehangu fy nealltwriaeth o ddulliau ymchwil, dylunio a moeseg astudiaethau a llywodraethu.

Does dim diddordeb gen i mewn ymchwil fel ymarfer damcaniaethol – yn lle hynny, rwy’n gyffrous am sut y gellir ei addasu ar gyfer gofal cleifion a sut y gall ddod â budd gwirioneddol i bobl yn ein cymunedau.

“Un diwrnod, rwy’n gobeithio cynrychioli ymchwil dan arweiniad nyrsys i safon uchel, dylanwadu ar ymarfer, gwella gofal i gleifion ac annog nyrsys eraill i ddilyn gyrfa ym maes ymchwil,” meddai Kate.

Kate has been on HCRW’s Research and Ethics Committed for four years, allocated to a committee which considers research involving children and adults lacking capacity which draws on both her nursing and social work knowledge bases.

She also reviews qualitative research, research involving prisoners or prisons, and tissue banks all of which are new areas of practice for Kate.

The HCRW training award will fund Kate’s course fees and cover some work time for her to study.

Health and Care Research Wales logo