Skip to content

Claire Lang

Uwch Reolwr Nyrsio Ymchwil

Claire yw’r Uwch Reolwr Nyrsio Ymchwil ar gyfer Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd. Mae hi’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes cyflawni ymchwil i’r tîm clinigol, wrth weithio ar y cyd ar draws sawl tîm ymchwil sy’n cyflawni portffolio o dreialon clinigol gan gynnwys astudiaethau sy’n amrywio o astudiaethau cymhleth Cyfnod Cynnar i Gyfnod Hwyr, Therapïau Uwch (therapïau Genynnau a Chelloedd) a brechlynnau mewn cleifion â thiwmor solet a hematoleg.

Daeth Claire yn hwyr i nyrsio a dechreuodd ei gyrfa mewn Oncoleg fel nyrs cemotherapi yng Nghanolfan Ganser Felindre yn 2009. Arweiniodd hyn at gyfle secondiad i’r adran Treialon Clinigol ac mae hi wedi parhau i weithio ym maes treialon clinigol byth ers hynny. Roedd Claire yn un o aelodau cyntaf y tîm Cyfnod Cynnar pan agorwyd yr Uned Cyfnod Cynnar gyntaf yng Nghymru yn 2013.

Mae ganddi ymrwymiad i ymchwil ac angerdd i wneud gwahaniaeth i gleifion, ac mae bellach ar daith gyffrous newydd gyda Phartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd, gan ddatblygu perthnasoedd cydweithredol ac adeiladu tîm ymchwil ystwyth a medrus iawn i ddarparu triniaethau canser arloesol.