Skip to content

Dr Karam Aboud

Cymrawd Ymchwil Clinigol

Graddiodd Dr Aboud o Ysgol Feddygol Caerlŷrf gyda gradd MBChB feddygol ac iBSc (Anrh) mewn geneteg canser y fron. Cwblhaodd Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd (PGCAPP) yn Ysgol Feddygol Caerlŷr a chyflawnodd statws Cymrawd yn yr Academi Addysg Uwch (FHEA) mewn addysg feddygol. Mae hefyd wedi cwblhau PGDip (Anrh) mewn Oncoleg ym Mhrifysgol Newcastle.

Mae Karam yn Gofrestrydd mewn Oncoleg Feddygol yn Neoniaeth De Cymru ac yn Gymrawd Ymchwil Clinigol yn Labordy Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a Phrifysgol Caerdydd. Mae’n ymgeisydd doethuraidd cyfredol sy’n ymchwilio i nodweddion ymwrthedd mewn canser yr ysgyfaint gan ddefnyddio biopsi hylif ctDNA.

Ers dechrau ei Ddoethuriaeth, ymunodd Karam â Phartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd fel Cymrawd Ymchwil Clinigol ac is-ymchwilydd ar nifer o dreialon clinigol tiwmorau solet a hematoleg. Mae ei Ddoethuriaeth yn cael ei hariannu gan Gronfeydd Elusennol Canolfan Canser Felindre ac elusen canser yr ysgyfaint Stepping Stones.