Dr Ricky Frazer
Ymgynghorydd Oncoleg Meddygol yng Ngwasanaeth Canser Felindre yng Nghaerdydd yn arbenigo mewn canser yr arennau, canser y croen ac imiwnotherapi
Darlithydd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd
Enillodd Dr Frazer radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Bioleg Foleciwlaidd a Chellog ym Mhrifysgol Caerfaddon, ac mae wedi cwblhau MSc mewn Addysg Feddygol. Dyfarnwyd rhagoriaeth iddo yn y Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Acíwt ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd Ricky yn Gymrawd Hyfforddi Arweinyddiaeth Glinigol Cymru gyda Deoniaeth Cymru ac mae’n Gymrawd Cyswllt Sefydlol y Gyfadran Arweinyddiaeth a Rheolaeth Feddygol.
Ricky yw Arweinydd Clinigol yr Uned Asesu Oncoleg Acíwt a’r gwasanaeth Rheoli Gwenwyndra Imiwnotherapi yng Nghanolfan Canser Felindre. Gyda diddordeb addysgol cryf, mae’n Diwtor Coleg yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon ac yn Arweinydd Cyfadran a Chyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y Diploma Ôl-raddedig a’r MSc mewn Oncoleg Feddygol a gaiff ei dilysu gan Brifysgol Buckingham a’i hachredu gan y GMC.
Ricky yw cyd-sylfaenydd y podlediad ‘The Immunobuddies’, a lansiwyd yn 2023, sy’n ymdrin â defnyddio a rheoli imiwnotherapi wrth drin canser. Mae’r podlediad ar gael am ddim ar-lein ac mae wedi’i lawrlwytho mewn mwy na 120 o wledydd ledled y byd.
