Skip to content

Yr Athro Steven Knapper

Athro yn yr Adran Canser a Geneteg yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Hematolegydd Ymgynghorol Anrhydeddus yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Hyfforddodd yr Athro Knapper mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen ac yn ddiweddarach, cwblhaodd hyfforddiant hematoleg arbenigol yng Nghaerdydd. Ef yw’r arweinydd canser hematolegol yn Ysbyty Prifysgol Cymru ac mae’n arwain treialon canser hematolegol cyfnod cynnar a’r gwasanaeth lewcemia acíwt rhanbarthol. Mae ei ymarfer clinigol yn ymwneud yn bennaf â chanserau hematolegol myeloid, yn enwedig lewcemia myeloid acíwt a neoplasmau myeloymledol.

Mae prif ddiddordebau ymchwil labordy Steven yn ymwneud â maes datblygu cyfryngau therapiwtig wedi’u targedu mewn malaeneddau myeloid; a hynny mewn astudiaethau labordy cyn-glinigol ac ymchwil glinigol, gan gynnwys prosiectau labordy ‘yn ôl i’r fainc’ sy’n rhedeg ochr yn ochr â threialon clinigol. Ar hyn o bryd ef yw Prif Ymchwilydd treial cam 3 Optimise-FLT3 a ariennir gan CRUK, ac yn ddiweddar astudiaeth OVATION cam 3 a ariennir gan Blood Cancer UK/Jacobsen Pharma mewn lewcemia promyelocytig acíwt.

Mae’n ymwneud yn helaeth â datblygu ymchwil glinigol ar lefel genedlaethol fel Dirprwy Gadeirydd Rhwydwaith Ymchwil AML y DU ac aelod o Grŵp Astudiaeth Glinigol Neoplasmau Myeloymledol y DU. Ymysg ei rolau eraill mae Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Rhaglen Cyflymu Treialon y DU, Cyd-Arweinydd Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol CRUK Caerdydd a Chadeirydd Hematoleg ECMC y DU.