Skip to content

Yr Athro Andrew Westwell

Athro Cemeg Feddyginiaethol yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd
Aelod Annibynnol o’r Bwrdd (Prifysgol), Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
Athro Anrhydeddus, Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd ac Ymchwil Celloedd Bonyn Amity, Prifysgol Amity (Uttar Pradesh, India)

Enillodd yr Athro Westwell ei Ddoethuriaeth mewn Synthesis Cemegol ym Mhrifysgol Leeds, ac yn dilyn ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Loughborough, daeth yn Uwch Gymrawd Ymchwil yr Ysgol Fferylliaeth ym Mhrifysgol Nottingham, gan gynnal ymchwil i ddarganfod cyffuriau canser cyn-glinigol gan arwain at nodi cyffur ymgeisiol clinigol newydd.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Andrew wedi parhau â’i waith ar ddarganfod ymgeiswyr cyffuriau gwrthganser newydd sy’n targedu clefydau datblygedig a gwrthiannol. Mae ei waith cydweithredol gyda phartneriaid yn y diwydiant yn canolbwyntio ar ddarganfod a datblygu’n gyn-glinigol gyffuriau gwrthganser ymgeisiol newydd sy’n targedu clefydau datblygedig a metastatig, sef achos marwolaeth mwy na 90% o gleifion canser.

Mae cyflawniadau Andrew ym maes ymchwil wedi’u dogfennu mewn mwy na 170 o gyhoeddiadau cyfnodolion rhyngwladol a 5 patent rhyngwladol a ffeiliwyd yn ystod ei yrfa. Mae hefyd yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn cadeirio Is-bwyllgor Ymchwil, Datblygu ac Arloesi Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, ac fe’i hetholwyd yn Gymrawd yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2024. Mae hefyd yn aelod sefydlol o grŵp canfod cyffuriau a lleihau niwed WEDINOS yng Nghymru, lle mae’n cadeirio bwrdd cynghori’r rhaglen.