Yr Athro Awen Gallimore
Athro yn yr Adran Imiwnedd Heintiadau, Prifysgol Caerdydd
Cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Imiwnedd Systemau, Prifysgol Caerdydd
Enillodd yr Athro Gallimore radd DPhil yn labordy’r Athro Andrew McMichael yn Rhydychen, gan astudio’r ymateb imiwnedd i firysau diffyg imiwnedd simiaidd a dynol. Gyda chymrodoriaeth deithiol Ymddiriedolaeth Wellcome, symudodd i labordy’r Athro Rolf Zinkernagel, Enillydd Gwobr Nobel, i astudio ymhellach ffactorau sy’n bwysig ar gyfer imiwnedd gwrthfeirol. Wedi hynny, dychwelodd i labordy’r Athro Vincenzo Cerundolo yn Sefydliad Meddygaeth Foleciwlaidd Weatherall i nodi ffyrdd o dorri goddefgarwch imiwnedd i hybu cydnabod celloedd canser.
Gyda Chymrodoriaeth Datblygu Gyrfa gan Ymddiriedolaeth Wellcome, sefydlodd Awen ei labordy yn Adran Feddygaeth Nuffield yn Rhydychen gyda ffocws ar archwilio rôl celloedd T rheoleiddiol mewn canser. Symudodd i Gaerdydd ac enillodd Gymrodoriaeth Uwch gan y Cyngor Ymchwil Meddygol i dyfu’r labordy, gan ymuno â’r Athro Andrew Godkin i ehangu gallu’r labordy i gynnal ymchwil drosiadol a chlinigol.
Ar hyn o bryd, mae labordy Gallimore Godkin (cancerimmunology.co.uk) yn cael cyllid gan Ymchwil Canser y DU, Ymchwil Canser Cymru, Breast Cancer Now ac Ymddiriedolaeth Wellcome ac mae’n mynd â gwaith ymchwil sylfaenol gan ddefnyddio systemau model o ganser hyd at brofi imiwnotherapiau newydd mewn cleifion â chanser.
