Skip to content

Yr Athro Mererid Evans

Athro Clinigol yn yr Adran Canser a Geneteg, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol Anrhydeddus, Canolfan Ganser Felindre
Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru
Arweinydd Clinigol Strategaeth Ymchwil Canser Felindre

Mae’r Athro Evans yn arbenigo mewn rheoli cleifion â chanser y pen a’r gwddf. Hi yw Prif Ymchwilydd dau dreial clinigol sydd â’r nod o ddatblygu triniaethau mwy caredig i gleifion â chanser y pen a’r gwddf sy’n bositif i’r Feirws Papiloma Dynol (HPV), PATHOS a PEARL, ac mae’n un o gyd-ymchwilwyr PROTIS, sef treial ar hap o belydr proton a radiotherapi ffoton ar gyfer canserau sinodrwynol (dan arweiniad Manceinion) a RAPTOR, sef treial ar hap o PENTOCLO mewn osteoradionecrosis maniblaidd (dan arweiniad Prifysgol Lerpwl).

Mererid yw Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Canser Cymru, sef seilwaith a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru sy’n cefnogi ymchwil canser ledled Cymru. Yn ei rôl fel Arweinydd Clinigol Strategaeth Ymchwil Canser Felindre, mae Mererid yn arwain cyfranogiad Felindre ym Mhartneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd.

Yn rhyngwladol, mae hi’n cadeirio panel arbenigol Pwyllgor Cydweithredol America ar Ganser (AJCC) ar fesur datblygiad canser oroffaryngeal sy’n gysylltiedig â HPV, ac yn cynrychioli’r Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Radiotherapi ac Oncoleg (ESTRO) fel cadeirydd y Gyngres Ryngwladol ar Ddulliau Arloesol mewn Oncoleg y Pen a’r Gwddf yn 2024 a 2026.