Mae canser yr ymennydd yn parhau i fod yn un o’r meysydd mwyaf heriol mewn oncoleg, gan alw am ddulliau arloesol ac ymchwil gydweithredol i wella canlyniadau cleifion. Yng Nghaerdydd, mae ein timau ymchwil wedi ymrwymo i drawsnewid tirwedd triniaeth canser yr ymennydd trwy archwilio cymhlethdodau microamgylchedd y tiwmor ac arloesi strategaethau therapiwtig newydd. Mae’r datganiadau cenhadaeth a strategaeth canlynol yn amlinellu ein gweledigaeth a’r fframwaith cydweithredol sy’n ysgogi ein hymdrechion i wneud datblygiadau ystyrlon ym maes ymchwil a gofal canser yr ymennydd.
Datganiad cenhadaeth
Ein gweledigaeth yw hyrwyddo dealltwriaeth o ficroamgylchedd tiwmor yr ymennydd a throsi’r wybodaeth honno i ddatblygu triniaethau canser yr ymennydd newydd a mwy effeithiol sy’n gwella canlyniadau i gleifion.
Mae grwpiau ymchwil canser yr ymennydd Caerdydd yn canolbwyntio ar ddeall sut mae celloedd canser yr ymennydd yn gwrthsefyll therapïau confensiynol, sut maent yn rhyngweithio ag astrocytau a chelloedd imiwnedd ym microamgylchedd y tiwmor, ac ar ddatblygu dulliau delweddu newydd i ymchwilio i ficroamgylchedd tiwmorau’r ymennydd mewn cleifion. Rydym yn datblygu dulliau newydd o ragweld sut mae tiwmorau cleifion yn ymateb i therapïau confensiynol, trin canserau’r ymennydd trwy feirotherapïau uwch, gwella effeithiolrwydd imiwnotherapïau, a chyflwyno therapïau i’r ymennydd.
Datganiad strategaeth
Byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth trwy ein tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n cydweithio’n agos i hyrwyddo dealltwriaeth o dargedau therapiwtig ym microamgylchedd tiwmor yr ymennydd ac i ddatblygu therapïau newydd yn erbyn y targedau hyn. Mae ein grwpiau ymchwil wedi’u cysylltu trwy’r Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol i Diwmorau’r Ymennydd a gefnogir gan Ganolfan Ymchwil Canser Cymru, ac sy’n rhan o Genhadaeth Canser yr Ymennydd Tessa Jowell. Byddwn yn darparu therapïau newydd trwy gydweithrediadau â Chanolfan NiwroTherapïau Uwch Caerdydd, y Ganolfan Meddyginiaethau Canser Arbrofol a’r Uned Treialon Clinigol.
Grwpiau ymchwil cysylltiedig
Dr Florian Siebzehnrubl – Bioleg Celloedd Astroglia
Dr Mathew Clement – Celloedd T mewn glioblastoma
Dolenni pellach
Menter Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd Ymchwil Canser Cymru
Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol Tiwmor yr Ymennydd
Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC) Caerdydd
