Cenadaethau Data Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd
Tuag at ddata cleifion sy’n wirioneddol amrywiol
Cynhyrchir data sy’n canolbwyntio ar y claf ar sawl cam gwahanol o daith claf, gan gynnwys gofal iechyd arferol, recriwtio i dreialon, ac o brosiectau ymchwil mwy sylfaenol sy’n ceisio cysylltu arsylwadau arbrofol â chanlyniadau.
Mae cynnydd yn nisgwyliad ein cleifion i ni ddefnyddio eu data i wella eu profiad nhw a phrofiad cleifion eraill wrth dderbyn triniaeth. Felly, mae cael mynediad at ddata sy’n canolbwyntio ar y claf a’u defnyddio yn ofyniad craidd ar gyfer holl weithgarwch Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd er mwyn cyflawni ymchwil canser o’r radd flaenaf, sy’n galluogi gwyddonwyr i ddod â darganfyddiadau newydd i’r clinig trwy gryfhau’r biblinell drosglwyddadwy a chynyddu cyfranogiad cleifion mewn ymchwil newydd.
Bydd CCRP yn ein galluogi i ddod o hyd i ffyrdd newydd a mwy effeithlon o weithio gyda’r mathau amrywiol hyn o ddata (amlfoddol), sy’n cael eu storio mewn gwahanol leoliadau ac yn cael eu llywodraethu gan wahanol foeseg, fframweithiau llywodraethu a rheolyddion data. Drwy gydweithio’n agosach a gweithio i bontio’r rhwystrau gweithredol rhwng sefydliadau, mae CCRP yn cynllunio llwybr i sicrhau’r defnydd mwyaf posibl o ddata gofal iechyd er budd clir i gleifion ac i alluogi cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol.
O weledigaethau i genadaethau

Mae CCRP wedi diffinio tri nod ar gyfer y gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar ddata y mae angen iddi eu cyflawni i gyflawni’r canlyniadau y mae cleifion yn eu disgwyl gennym ni.
Yn gyntaf, mae angen i ni “Fynd Ymhellach” nag y gallwn yn awr, drwy gynyddu’r wybodaeth am y data amrywiol a gynhyrchir yn ystod gofal iechyd ac ymchwil, a gellir ei chasglu’n set ddata amlfoddol werthfawr sy’n canolbwyntio ar y claf. Mae angen i ni wneud gwell defnydd o’r data sydd ar gael ar gyfer gwella gwasanaethau, recriwtio ar gyfer treialon ac i ategu’r ymchwil a fydd yn arwain at driniaeth y dyfodol. Mae angen i ni hefyd wella ansawdd data er mwyn ein galluogi i weithio ar draws ffiniau ac ymuno â threialon ac astudiaethau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ail, mae angen i ni “Fynd yn Gyflymach”. Mae angen rhagor o wybodaeth ar ymchwilwyr a thimau clinigol am eu data a’r prosesau moeseg a llywodraethu sydd eu hangen i’w defnyddio’n greadigol i gyflymu mabwysiadu treialon newydd neu alluogi ymchwil newydd.
Yn olaf, mae angen i ni “Fynd Gyda’n Gilydd”. Mae CCRP yn ein galluogi i symleiddio prosesau a gweithio ar y cyd gyda mwy o ddealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng sefydliadau. Dyma’r allwedd i’n cynnydd ar y ddau nod cyntaf.
Diffinnir y gwaith i gyflawni pob un o’r nodau hyn gan gyfres o “genadaethau data”, pob un â’i rhaglen waith ei hun i gynyddu ein cydweithrediad:
- Gwybodaeth Data
- Defnydd Data
- Ansawdd Data
- Hyfforddiant Data
- Hysbysrwydd Data
- Cymuned Data
- Ymgysylltu Allanol
Os hoffech siarad â ni am waith rydyn ni'n ei wneud, mae croeso i chi gysylltu â ni:
Dr Peter Giles
Arweinydd Gwyddor Data
GilesPJ@Caerdydd.ac.uk
Liz Merrifield
Arweinydd Llywodraethu Data
MerrifieldER@caerdydd.ac.uk