Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw lleihau baich canser trwy atal rhagweithiol, sgrinio a diagnosis cynnar drwy’r canlynol:
- Grymuso unigolion a chymunedau i wneud dewisiadau gwybodus sy’n lleihau risg.
- Sicrhau mynediad teg at sgrinio o ansawdd uchel sy’n canfod canser yn gynnar.
- Hyrwyddo canfod cynnar drwy ymchwil, arloesi a chydweithio.
- Cyflawni nod y GIG o wneud diagnosis o 75% o ganserau yng nghyfnod 1–2 erbyn 2028.
- Arfogi darparwyr gofal iechyd â’r offer, yr hyfforddiant a’r data i weithredu’n gyflym.
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy ymyriadau cynhwysol, wedi’u teilwra.
Meysydd craidd
- Atal: Hyrwyddo ymddygiadau iach a lleihau risg.
- Canfod yn Gynnar: Diagnosio canser yn gynharach i gael canlyniadau gwell.
- Tegwch: Sicrhau bod pob poblogaeth yn elwa’n gyfartal.
- Arloesedd: Ysgogi gwelliant drwy ymchwil a thechnoleg.
Canolbwynt ymchwil
- Ymddygiad:
Archwilio’r ffactorau sy’n ysgogi ceisio cymorth ar gyfer symptomau canser a chyfranogiad mewn sgrinio. Trwy ddefnyddio gwyddor ymddygiad ac ymyriadau cymunedol, ein nod yw lleihau anghydraddoldebau ac optimeiddio ymddygiadau canfod cynnar. - Canfod a Sgrinio Cynnar:
Cynnal treialon clinigol a ariennir gan NIHR, CONSCOP2, FORE-AI, ColoCAP, i werthuso technolegau sgrinio canser newydd a’u hintegreiddio â’r GIG. Drwy’r rhaglen CD3 a ariennir gan CRUK, rydym yn datblygu modelau rhagfynegi risg canser sy’n seiliedig ar ddata, gydag arbenigedd mewn canser y colon a’r rhefr. - Bioleg:
Ymchwilio i sut mae ffordd o fyw a maeth yn dylanwadu ar ddatblygiad a chanlyniadau canser. Trwy ddatgelu’r mecanweithiau biolegol sy’n cysylltu deiet ag iechyd a chlefyd, ein nod yw cryfhau cyngor iechyd y cyhoedd a llywio datblygiad therapïau ataliol.
Grwpiau ymchwil cysylltiedig
Yr Athro Kate Brain
Yr Athro Sunil Dolwani
Dr Lee Parry
Dr Grace McCutchan
Dr Pamela Smith
Dolenni pellach
Cardiff Centre for trials research
European Cancer Stem Cell Research Institute – Cardiff University