
Darganfod ac Ymchwil Drosiadol
Trwy ddod â Phrifysgol flaenllaw yn y DU a dau sefydliad darparwyr y GIG ynghyd, gall Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd (CCRP/y Bartneriaeth) weithio ar ymchwil o’r cyfnod darganfod cynnar hyd at dreialon clinigol cyfnod hwyr. Mae hyn yn ei gwneud yn gyfrwng delfrydol ar gyfer symud ymchwil o’r labordy i’r ward.
Rydym yn cynnig arbenigedd a chyfleusterau academaidd a chlinigol i’n partneriaid yn y diwydiant, gan gydweithio i ddatblygu triniaethau canser newydd.

Treialon Clinigol
Mae’r CCRP yn galluogi’r diwydiant i weithio’n ddi-dor ar draws BIP Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’r ‘drws ffrynt’ sengl hwn yn darparu mynediad at arbenigedd a chyfleusterau sy’n cwmpasu canserau hematolegol a thiwmorau solet, ar draws sawl cyfnod a sawl lefel o gymhlethdod.

Arbenigedd
Rydym yn cynnig un pwynt mynediad i noddwyr a chyllidwyr ymchwil eraill yn y diwydiant i gael mynediad at ystod o gyfleusterau a galluoedd y GIG a’r Brifysgol sydd wedi’u gwasgaru ar draws rhanbarth Caerdydd. Rydym yn darparu mynediad at alluoedd ychwanegol gan gynnwys genomig a chysylltu data trwy weithio gyda sefydliadau arbenigol o bob cwr o Gymru.
