Dr Keith Wilson
Graddiodd Dr Wilson o Brifysgol India’r Gorllewin, Mona, Jamaica. Ymgymerwyd â hyfforddiant ôl-raddedig Meddygaeth Gyffredinol yn ei wlad enedigol, Trinidad a Tobago, a hyfforddiant arbenigol mewn Hematoleg a Thrawsblannu yn Llundain yn Ysbytai St George, Royal Marsden a St Helier dan nawdd Deoniaeth De Tafwys.
O 1999 i 2006, Keith oedd Cyfarwyddwr y Rhaglen Gwaed a Thrawsblannu Mêr yn Ysbyty Prifysgol Cymru. Penodiad ar y cyd â Gwasanaeth Gwaed Cymru oedd hwn, lle’r oedd yn Brif Ymgynghorydd ar gyfer Afferesis ac yn Gyfarwyddwr Meddygol Cofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru. Arweiniodd y broses o uno rhaglenni clinigol presennol â chyfleusterau casglu a phrosesu i ffurfio Rhaglen Gwaed a Thrawsblannu Mêr De Cymru yn 2011, gan wasanaethu 2.5 miliwn o oedolion a phlant yn ne, canolbarth a gorllewin Cymru.
Mae gan Keith ystod eang o ddiddordebau ymchwil gan gynnwys rôl imiwnotherapi mewn therapi canser, effeithiau hwyr trawsblannu, strategaethau cyllido a chomisiynu, a systemau rheoli ansawdd. Mae’n aelod o fwrdd Therapïau Uwch Cymru, un o bileri Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd i annog buddsoddiad mewnol ac i hwyluso cyflawni treialon clinigol ac ATMPau masnachol. Sefydlodd Keith Gonsortiwm Therapi Cellog Cymru i hyrwyddo ymchwil drosiadol i Therapïau Uwch ac i wasanaethu fel platfform i ymchwilwyr sydd â diddordeb elwa o’r gronfa ddata trawsblannu.
