Dr Jennifer Golten
Bu Dr Golten yn astudio ym Mhrifysgol Bryste; cwblhaodd ei hyfforddiant meddygol yn Ysbytai Mount Vernon a Lister a’i hyfforddiant oncoleg yn Llundain, gan gynnwys yn Ysbyty’r Royal Marsden cyn symud i Wasanaeth Canser Felindre yn 2021. Mae ganddi radd mewn ffarmacoleg, ac mae hi wedi gweithio yn y diwydiant fferyllol ac fel meddyg mewn treialon cyfnod cynnar yng Nghaergrawnt.
Fel Cymrawd Ymchwil Clinigol mewn niwro-oncoleg, mae Jennifer yn ymchwilio i radiotherapi ar gyfer glioma gradd uchel ac isel. Mae hyn yn cynnwys data treialon clinigol sy’n archwilio arferion sy’n esblygu ledled y DU ac yn amlinellu strwythurau arferolyr ymennydd ac organau sydd mewn perygl.
Mae Jennifer yn cydweithio â CUBRIC ym Mhrifysgol Caerdydd mewn prosiect yngylch defnyddio MRI microstrwythur i ddelweddu glioblastoma.
