Yr Athro Robert Jones
Cyfarwyddwr Meddygol Cyswllt Ymchwil ac Arloesi ar gyfer Gwasanaeth Canser Felindre
Arweinydd Treialon Canser Cyfnod Cynnar yng Nghymru
Arweinydd Tiwmorau Solet ar gyfer Canolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd (ECMC)
Cyd-Gyfarwyddwr Adran Canser a Geneteg, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
Enillodd yr Athro Jones Ddoethuriaeth mewn Ymchwil Canser cyn astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Ar ôl cwblhau hyfforddiant Oncoleg Feddygol yn Glasgow, ymgymerodd â gymrodoriaeth Gwyddonydd Clinigydd CRUK cyn cael ei benodi’n Uwch Ddarlithydd mewn Oncoleg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Rob yw Prif Ymchwilydd ar ddau dreial portffolio cenedlaethol dan arweiniad ymchwilwyr, FAKTION a FURVA. Adroddwyd ar lafar am FURVA yng nghyfarfod Cymdeithas Oncoleg Feddygol Ewrop (2020) ac ar lafar am FAKTION yng Nghymdeithas Oncoleg Glinigol America (Chicago 2019, a 2022). Dangosodd FAKTION fod amser goroesi cyffredinol cleifion â chanser y fron metastatig wedi dyblu, a gwnaeth gyfraniad hanfodol at gymeradwyaeth yr FDA o Truqap, sef atalydd AKT cyntaf yn ei ddosbarth ar gyfer ei arwydd clinigol trwyddedig cyntaf.
Sefydlodd Rob unig Uned Treialon Canser Cyfnod 1 Cymru sydd bellach â thîm o tua 20 o staff. Agorodd ac arweiniodd y gwaith o recriwtio’n fyd-eang ar gyfer ei dreial cyntaf erioed mewn bodau dynol, ac mae wedi bod yn Brif Ymchwilydd ar gyfer tua 50 o dreialon cyfnod cynnar.
