Skip to content

Dr James Powell

Oncolegydd Clinigol Ymgynghorol yng Ngwasanaeth Canser Felindre, yn arbenigo mewn niwro-oncoleg a chanser yr ysgyfaint
Athro Gwadd Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd

Cwblhaodd Dr Powell Ddoethuriaeth yn Sefydliad Geneteg Canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2014. Ei ddiddordeb ymchwil yw mewn ymchwilio i ddulliau delweddu MRI uwch a thriniaeth radiotherapi i wella canlyniadau i gleifion â thiwmorau ar yr ymennydd.

James yw arweinydd clinigol ac ymchwil ar gyfer niwro-oncoleg yng Ngwasanaeth Canser Felindre ac mae wedi datblygu gweithgarwch treialon clinigol tiwmorau’r ymennydd yng Nghaerdydd, gan wella mynediad at dreialon clinigol i gleifion â thiwmorau’r ymennydd yng Nghymru. Mae’n eistedd ar y grŵp rheoli treialon cenedlaethol ar gyfer sawl treial tiwmor yr ymennydd. Mae James yn gyd-ymgeisydd ar gyfer y treial clinigol APPROACH a ariennir gan NCRI sy’n cymharu effeithiau niwro-wybyddol radiotherapi ffoton a phroton mewn cleifion â glioma. Mae wedi arwain sawl cydweithrediad ymchwil i diwmorau’r ymennydd gyda Chanolfan Delweddu Ymchwil yr Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC).

James yw arweinydd clinigol Academi Hyrwyddo Radiotherapi Cymru (ARC) ac arweinydd y thema Radiotherapi yn strategaeth ymchwil canser Cymru (CReST). Mae hefyd yn arweinydd clinigol ar gyfer y Grŵp Ymchwil Amlddisgyblaethol Tiwmorau’r Ymennydd yng Nghaerdydd a Menter Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd (BATRI) a ariennir gan Ymchwil Canser Cymru, cronfa ymchwil â’r nod o ddod ag arweinwyr academaidd a chlinigol ynghyd i ddatblygu ac adeiladu màs critigol ffyniannus o ymchwil i diwmorau’r ymennydd yng Nghymru.