Skip to content

Yr Athro Richard Clarkson

Athro Ymchwil Canser yn Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd
Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Celloedd Bonyn Canser Ewrop
Cyfarwyddwr Gwyddonol Biofanc Canser Cymru

Derbyniodd yr Athro Clarkson ei Ddoethuriaeth o Gyfadran Meddygaeth Prifysgol Manceinion a chynhaliodd ymchwil ym Mhrifysgolion Queensland a Chaeredin cyn ymgymryd â chymrodoriaeth ymchwil ym Mhrifysgol Caergrawnt. Symudodd i Brifysgol Caerdydd lle sefydlodd labordy Clarkson, gan ganolbwyntio ar nodi strategaethau therapiwtig newydd i ddileu neu addasu’r celloedd canser sy’n gyfrifol am ledaeniad canser.

Mae ei grŵp wedi adnabod dau enyn; mae un yn effeithio ar hyfywedd a chynnal a chadw bôn-gelloedd canser mewn tiwmorau tra bod y llall yn amharu ar allu celloedd tiwmor i symud trwy feinweoedd.  Nod astudiaethau parhaus Richard yw nodweddu’r mecanweithiau hyn yn fanylach a datblygu therapïau newydd sy’n targedu’r ddau enyn hyn mewn cleifion â thiwmorau solet datblygedig ac anodd eu trin.

Mae Richard yn dal nifer o batentau ar gyfer therapïau gwrth-ganser posibl newydd, ac mae wedi bod yn gynghorydd gwyddonol i nifer o gwmnïau fferyllol newydd sy’n gysylltiedig â chanser.