Gabriella Brutto
Nyrs Ymchwil
Graddiodd Gabby o astudio Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd a dechreuodd weithio yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, gan gyrraedd rôl Dirprwy Brif Nyrs. Ar ôl saith mlynedd, symudodd i weithio ym maes ymchwil yn y Cyfleuster Ymchwil Clinigol yn cefnogi astudiaethau Partneriaeth Ymchwil Canser Caerdydd cyn ymuno â’r Bartneriaeth yn llawn amser.
Gyda chymorth Canolfan Canser Felindre, mae Gabby wedi cwblhau modiwl Meistr mewn Dulliau Ymchwil. Mae hi wedi gweithio gyda chwmnïau fferyllol ar dreialon clinigol ar draws amrywiaeth o safleoedd clefydau i ddatblygu’r corff gwybodaeth a dod o hyd i driniaethau newydd i gleifion.
